Pennod 100 - Yr Eisteddfod, y Nofel, a Gwleidyddiaeth ar Ddiwedd Canrif
Dyma ni’n dathlu diwedd cyfres 3 Yr Hen Iaith a’r ffaith syfrdanol ein bod ni wedi cyrraedd 100 o benodau - yn y brif gyfres, heb gyfrif y gyfres lefel A - gyda phennod arbennig a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Edrychwn yn gyntaf ar ychydig o hanes yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gweld bod nifer o themâu canolog y gyfres hon hefyd yn ganolog yn yr eisteddfodau hynny. Wrth grybwyll y bobl a oedd yn gweithio y tu ôl i’r llenni ac yn ymdrechu i broffesiynoli gweinyddiaeth y r Eiseddfod Genedlaethol, mae enw Beriah Gwynfe Evans yn codi, sy’n gyfle perffaith i fanteisio ar arbenigedd Richard Wyn Jones a chraffu ar gysylltiad difyr rhwng llenyddiaeth Gymraeg a gwleidyddiaeth Gymreig y cyfnod. Mae Jerry Hunter yn mynd ati wedyn i geisio darbwyllo Richard y dylai ddarllen nofel Beriah Gwynfe Evans, Dafydd Dafis, sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol (1899). Er bod y prif gymeriad yn greadigaeth ffuglennol, mae neb llai na Tom Ellis a Lloyd George yn ymddangos fel cymeriadau yn y nofel ddychanol fywiog hon. Mae’r draofaeth yn arwain at ddiweglo’r gyfres, wrth i ni nodi bod sylfeini solet wedi’u gosod ar gyfer llenyddiaeth Gymraeg erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif. * The Eisteddfod, the Novel and Politics at Century’s End Here we celebrate the end of series 3 of Yr Hen Iaith and the astounding fact that we’ve reached 100 episodes - in the main series, not counting the A-level series - with a special episode recorded in front of a live audience in the Literature Tent in this year’s National Eisteddfod. First we look at some of the history of the National Eisteddfod at the end of the nineteenth century, and see that a number of the themes central in this series are also central in those eisteddfodau. While mentioning the people who worked backstage and strove to professionalize the administration of the Eisteddfod, Beriah Gwynfe Evans’ name crops up, creating a perfect opportunity to take advantage of Richard Wyn Jones’ specialty and examine an interesting connection between Welsh-language literature and Welsh politics in the period. Jerry Hunter then tries to persuade Richard that he should read a novel by Beriah Gwynfe Evans, Dafydd Dafis, sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol [Dafydd Dafis, namely the Autobiography of a Candidate for Parliament] (1899). Although the main character is a fictional creation, famous figures such as Tom Ellis and Lloyd George appear ac characters in this lively satirical novel. The discussion leads us to wrap up the series as we note that solid foundations for Welsh-language literature were in place by the start of the twentieth century. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Richard Wyn Jones, Rhoi Cymru’n Gyntaf [:] Syniadaeth Wleidyddol Plaid Cymru, cyfrol 1 (Gwasg Prifysgol Cymru 2007). - Beriah Gwynfe Evans, Bronwen (adargraffiad Melin Bapur). - Beriah Gwynfe Evans, Llywelyn (adargraffiad Melin Bapur). Rydym yn deall bod Melin Bapur yn bwriadu adargraffu Dafydd Dafis yn fuan hefyd.
Audio and video play straight from the show's own hosting. PodSubs stores and serves no media.

